Kerberos (lloeren)
Gwedd
![](https://cdn.statically.io/img/upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/23/Kerberos_%28moon%29.jpg/220px-Kerberos_%28moon%29.jpg)
Un o bum lloeren y blaned gorrach Plwton yw Kerberos. Fe'i darganfuwyd gan y Pluto Companion Search Team yn defnyddio'r Telesgop Gofod Hubble ar 28 Mehefin 2011.
Mae Kerberos wedi ei enwi ar ôl Serberws, y ci sy'n gwarchod mynedfa Hades ym mytholeg Roeg.